Home Page

Gweithgareddau Thema / Thematic Activities

Seiloffon Dŵr / Water Xylophone

 

Llenwch gwpanau gydag amrywiaeth o lefelau dŵr a gosodwch y cwpanau yn nhrefn y mwyaf o ddŵr i'r lleiaf.  Ydych chi'n gallu creu cân wrth daro'r cwpanau gyda llwy?

 

Fill some glasses with various amounts of water and place the cups in order from the most water to the least.  Can you make a song by tapping the cups with a spoon?

 

                   

Daliwr Haul y Pasg / Easter Sun-catcher

 

Pasg Hapus!  Beth am greu daliwr haul siâp ŵy Pasg i arddangos yn y ffenest yn y tywydd braf?  

 

Happy Easter!  How about making an Easter egg sun-catcher to display in the window during this nice weather?

 

   

Modelau Ailgylchu / Junk Models:

 

Rydym ni'n wych yn ailgylchu yn y Meithrin!  Beth am ddefnyddio nwyddau rydych chi'n ailgylchu yn y tŷ er mwyn creu rhywbeth? e.e Elfed fel y gwelwch isod?  Rydych chi gyd mor greadigol, rwy'n siwr bydd llwyth o syniadau gennych chi!

 

We are excellent recyclers in the Nursery! How about using objects that you are recycling in the house to make something? Like the model of Elmer you can see below for example?  You are all so creative, I'm sure you'll have lots of brilliant ideas!

 

       

 

Celf Cysgodion / Shadow Drawing:

 

Rydym wedi bod yn ffodus dros ben yn ddiweddar gyda'r tywydd braf - gobeithio bydd hyn yn parhau!  Beth am geisio creu darluniau ar bapur o'ch teganau gan ddefnyddio eu cysgodion?  Gallwch wneud hwn yn y tŷ neu tu allan!

 

We have been lucky recently with the lovely weather we have had - hopefully this will continue!  How about creating drawings on paper of your toys using their shadows?  You could do this in the house or outdoors!