Home Page

Croeso/welcome

Croeso i wefan Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw.smiley

 

Ein nod fel ysgol a chymuned yw sicrhau cyfleoedd gwerthfawr i gefnogi ac ysgogi ein plant ar hyd eu llwybr addysgol. Gwneir hynny wrth i ni sicrhau awyrgylch gofalgar a chynhwysol sy'n gwerthfawrogi a chydnabod ymdrech bob plentyn.

 

Trwy wersi a phrofiadau priodol; cwricwlwm creadigol, ysgogol; rhaglen gofal a chefnogi pwrpasol, datblygir y sgiliau a'r gwerthoedd fydd yn sylfaen i'n plant yn eu bywydau tu hwnt i addysg.

 

Mae Ysgol Llwynderw yn Ysgol Gynradd Gymraeg ac felly mae datblygu balchder at ein hiaith, ein traddodiadau a'n etifeddiaith yn flaenllaw ym mywyd pob dydd yr ysgol.

 

Mae gen i, y Staff, Plant, Rhieni a Llywodraethwyr disgwyliadau uchel ac felly mae cydweithio, rhannu gwybodaeth a syniadau yn allweddol i lwyddiant yr ysgol. 

 

Mawr gobeithiaf felly bydd ein gwefan yn rhan o'r bartneriaeth yma. Yn cynnig cyfle i chi ddod o hyd i wybodaeth gyffredinol, y newyddion mwyaf diweddar a gwir blas ar fywyd ein hysgol o wythnos i wythnos.

 

 

Cofion cynnes 

 

Mrs Rachel Collins 

Pennaeth 

 

    Welcome to Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw's Website.smiley

 

Our aim as a school and community is to ensure that we provide valuable opportunities to support and inspire our children to succeed. As such we provide a caring and inclusive environment that values the individual pupils effort to do their best.

 

We ensure that we provide opportunities and lessons that are appropriate to the children's needs and interests- a broad and balanced curriculum that encourages creativity. We provide a purposeful programme of support and nurture.

 

Ysgol Llwynderw is a Welsh medium primary school and as such the traditions and heritage of the language are integral to our ethos an philosophy.

 

All school Staff, Pupils, Parents and Governors at Llwynderw have high expectations of each other. Working together for the benefit of the children is integral to the schools success.

 

I sincerely hope therefore that the website will be an important development in schools ability to share information, news and events with parents and the community on a weekly basis.

 

Kind regards

 

Mrs Rachel Collins 

 Headteacher