Roedd hi'n bleser i fynd a Blwyddyn 1 a 2 ar ymweliad i Stadiwm y Liberty heddiw. Roedd pob un ohonynt wedi ymddwyn yn arbennig. Roedden ni wedi cael llawer o hwyl a sbri yn gweld yr ystafelloedd newid a'r twnnel. Roeddwn ni wedi eistedd yng nghadeiriau'r rheolwyr wrth ochr y cae, a aethon ni lan i weld y cae o un o'r bocsys uchel. Roedden ni wedi dysgu llawer am y Stadiwm a'r chwaraewyr! Pwy oedd yn gwybod bod y chwaraewyr yn bwyta 'jelly beans' cyn y gêm? Ac yn cael bath o iâ ar ei ôl!! Fe wnaeth Blwyddyn 2 godi llawer o galonnau a denu cynulleidfa wrth ganu'r anthem genedlaethol wrth ochr y cae. Diolch i Mr Stuart Button am roi taith mor arbennig ac addas i oed y plant. Roedd y plant yn llawn cyffro ac yn ysu gofyn llwyth o gwestiynau. Roedd hi'n bleser clywed Mr Button yn canmol y plant am ei hymddygiad arbennig.
It was a pleasure to take Year 1 and 2 on a trip to the Liberty Stadium today. Every one of them were excellent. We had lots of fun going into the players changing rooms and in the tunnel. We sat in the managers seats at the side of the pitch, and went up to one of the high boxes to see the pitch. We learned a lot about the stadium and the players. Who knew that they eat 'jelly beans' before the game? And have a bath in ice afterwords!! Year 2 rounded up quite a crowd whilst singing the national anthem on the side of the pitch and had a well deserved cheer! Thank you to Mr Stuart Button for giving us a fantastic, and very age-appropriate tour. The children were excited and couldn't wait to ask loads of questions. It was a pleasure to hear Mr Button complementing the children for their excellent behaviour at the stadium.
Reminder / Nodyn i'ch hatgoffa
Bydd Ymarfer Corff Dosbarth Blwyddyn 1 a 2 ar fore Dydd Gwener. A wnewch chi sicrhau bod cit gyda'ch plentyn os gwelwch yn dda. Croeso i chi adael y cit yn locker eich plentyn am yr hanner tymor.
A wnewch chi sicrhau bod eich plentyn yn dychwelyd Llyfr darllen yn wythnosol os gwelwch yn dda.
Year 1 and 2 PE lesson is on a Friday morning. Could you please ensure that your child has a PE kit in school. You are able to leave the kit in their locker for the half term if you wish to.
Please could you ensure your child returns their reading book weekly. Thankyou.
Mae hanner tymor wedi cyrraedd. Rydyn ni wedi cael amser gwych yn ein dosbarth yr hanner tymor hwn. Rydyn ni wedi bod yn cwrdd â ffrindiau newydd, wedi bod yn cyfarwyddo gyda trefn dyddiol newydd ac wedi bod yn archwilio a mwynhau ystafell ddosbarth newydd- ac ardal allanol a buarth newydd i flwyddyn 1.
Roeddwn ni gyd wedi mwynhau ar ein hymweliad i'r fferm a'r amgueddfa ac roedd y plant wedi mwynhau cerdded trwy'r holl fwd, casglu'r wyau, bwydo'r anifeiliaid a blasu cynnyrch y fferm. Roedden ni wedi dysgu llawer am yr anifeiliaid ar y fferm yn ogystal â sut mae'r ffermwr yn gofalu am ei anifeiliaid. Yn yr amgueddfa roeddwn yn ffodus i weld yr offer roedd y ffermwyr yn defnyddio i ofalu am ei anifeiliaid a'i cnydau amser maith yn ôl, yn ogystal â gweld hen gegin er mwyn arsylwi'r gwahaniaethau rhwng yr adeg hynny a beth sydd gyda ni nawr. Fe fyddwn yn parhau gyda gwaith sy'n deillio o'r holl wybodaeth ddysgon ni ar y fferm ar ôl y gwyliau.
Rydyn ni wedi bod yn brysur yn y dosbarth yn dysgu adrodd stori 'Y Feipen Enfawr' ar ffurf 'Pie Corbett' ac mae'n syndod pa mor gyflym mae'r plant yn ei ddysgu.
Fe fyddwn yn parhau gyda'r thema 'Oren' am rhai wythnosau ar ôl y gwyliau, cyn i ni symud ymlaen at lliw 'Coch' cyn adeg y Nadolig.
Diolch i chi fel rhieni am eich cefnogaeth. Mwynhewch y gwyliau. Edrychaf ymlaen at groesawi'ch plant yn ôl, ac i glywed y newyddion cyffrous bydd eich plant am rannu am eu gwyliau Dydd Llun nesaf.
____________________________________________________________________
Half term is here. We have had an exciting time in our class this half term. We have all made new friends, and have been getting used to a new daily routine. We have been enjoying and exploring a new classroom- and for the year 1 children a new outdoor area and playground.
We all thoroughly enjoyed our trip to the farm and to the museum. The children enjoyed walking through all the mud on the farm, collecting the eggs, feeding the animals, and tasting the produce from the farm. We learned about the animals and what the farmer does to look after all his animals. We were also fortunate to visit the museum, where we learned how farmers used to look after their animals and crops, and what tools they used years ago. We also got the chance to see and old farmhouse kitchen and to observe the differences to our kitchens that we have now. We will be doing more work on the information we learned on the trip after the holidays.
We have been busy learning to tell the story- ‘Y Feipen Enfawr’ (The Enormous Turnip) in the form of ‘Pie Corbett’ and it is amazing how fast the children are picking it up.
We will be continuing on our theme ‘Orange’ after the holidays before moving onto ‘Red’ before Christmas.
Thank you parents for all your support. Enjoy the holidays. I look forward to welcoming your children back to school next Monday, and hearing all the news they will have to share about their week off.
Rydyn ni wedi symud Ymarfer Corff Dosbarth Blwyddyn 1 a 2 o Ddydd Mercher i Ddydd Gwener. Cofiwch ddod a wisg addas!
We have moved Year 1 and 2's PE lesson from Wednesday to Friday. Please remember to bring your kit!
Diolch
Yn ystod yr wythnos hon (Wythnos yn dechrau 29/9/14), bydd plant Blwyddyn 1 a 2 yn ymweld â barc lleol er mwyn cynnal arbrofion i ddysgu am rymoedd. Fe fydd y tri dosbarth yn mynd yn ei tro, yn dibynnu ar y tywydd yn ystod yr wythnos. Rydyn ni wedi derbyn rhan fwyaf o’r ffurflenni caniatad i fynd i’r ardal leol yn ôl erbyn hyn, ond os nad ydych wedi ei ddychwelyd eto, a wnewch chi wneud hyn cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda.
During this week (Week Beginning 29/9/14), Year 1 and 2 children will be visiting a local park to carry out experiments and to learn about forces. The three classes will be going separately, depending on the weather this week. We have received most of the consent forms to visit the local area by now, but if you have not returned it yet, please could you do so as soon as possible.
Diolch / Thank you
Ein bwriad yw i rhannu gwybodaeth a chynnig cyfle i chi gael blas ar yr hyn rydyn ni'n cyflawni yn y dosbarth.
Bydd peth gwybodaeth wrtha i, a bydd lluniau o'r plant yn enghreifftio eu profiadau.
Hefyd bydd casgliad o wefannau defnyddiol i gefnogi ein gwaith ym mlwyddyn 1 a 2.
Joiwch!
Miss Carys Abraham
____________________________________________________________________
Our aim is to share information and offer an opportunity for you to get a flavour of what we do.
There will be some information from me, and photographs of the children outlining their experiences.
and a collection of useful websites to support their learning in Year 1 and 2.
Enjoy!
Miss Carys Abraham